3 Hydref 2023
Sesiwn friffio’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr
Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau, 21 Medi 2023 i’n briffio ynghylch dyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod y cyfarfod, gwnaethoch gynnig adrodd yn ôl i’r Pwyllgor gyda’r wybodaeth ganlynol ar ôl mynd i Fforwm Rhyngwladol ar Gyfrifiadau ym mis Hydref 2023:
§ Gwybodaeth am sut mae gwledydd eraill yn casglu data ar ieithoedd mewn gwledydd dwyieithog, megis sut mae data ar yr iaith Ffrangeg yn cael eu casglu yng Nghanada;
§ Unrhyw wybodaeth arall o’r Fforwm a all ddod o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor.
Byddai’n dda gan y Pwyllgor hefyd wybod mwy am gynllun cydweithio’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu data dibynadwy ar y Gymraeg. Byddai hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallai data cadarn am y Gymraeg gael eu casglu yn y dyfodol drwy samplu data gweinyddol yn hytrach nag arolygon ar raddfa fawr.
Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb maes o law, a byddwn yn falch o gael unrhyw wybodaeth berthnasol ychwanegol y byddwch efallai am ei rhannu â ni.
Croesewir
gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.